CLA(4)-19-12

 

CLA171

 

Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) Diwygio 2012

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae'r rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) er mwyn disodli rheoliadau 13 a 14(2), a hynny er mwyn sicrhau bod darpariaethau Cyfarwyddyd 2008/98/EC (y gyfarwyddeb fframwaith gwastraff ddiwygiedig), sy'n ymwneud â chasglu gwastraff ar wahân, yn cael eu trosi'n gywir.   

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 (ix) mewn perthynas â'r offeryn hwn: nad yw wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn: mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.

 

1. Troswyd darpariaethau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig sy'n ymwneud â chasglu gwastraff papur, metal, plastig a gwydr ar wahân gan Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011.

 

Roedd Rheoliad 13 (2) o'r Rheoliadau hynny'n darparu bod casgliadau cymysg (sef casglu'r eitemau dan sylw gyda'i gilydd ond eu casglu ar wahân i eitemau gwastraff o ffynonellau gwastraff y bwriedir eu hailgylchu) yn un math o gasglu ar wahân.

 

Cafodd achos adolygiad barnwrol ei ddwyn er mwyn herio'r trosiad hwn, yn benodol mewn perthynas â'r ddarpariaeth sy'n ymwneud â gwastraff cymysg. Derbyniodd Gweinidogion Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig nad oedd rheoliad 13 gwreiddiol yn gweithredu gofynion y gyfarwyddeb fframwaith gwastraff ddiwygiedig mewn perthynas â chasglu ar wahân mewn modd priodol, a bod angen diwygio Rheoliadau 2011 yn sgîl hynny. 

 

Ym mis Rhagfyr 2011, gohiriwyd yr achos tan 13 Mehefin 2012, er mwyn rhoi cyfle i Weinidogion Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ymgynghori ar gynigion i ddiwygio Rheoliadau 2011.

 

Mae'r Memorandwm esboniadol yn datgan bod yr offeryn hwn wedi'i osod cyn y toriad, yn unol â chytundeb a wnaed gyda'r hawlwyr a'r partïon eraill sydd â diddordeb i ymestyn cyfnod gohirio'r adolygiad barnwrol o 13 Mehefin i 25 Mehefin, a hynny er mwyn rhoi cyfle i Weinidogion Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i osod rheoliadau diwygio cyn y dyddiad hwnnw.  

 

Nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn rhoi unrhyw wybodaeth bellach yn nodi a yw'r hawlwyr a'r partïon eraill sydd â diddordeb yn yr achos hwn o ymgyfreitha wedi'u bodloni bod y Rheoliadau diwygiedig yn trosi'r gyfarwyddeb fframwaith gwastraff ddiwygiedig yn gywir.  

 

2. Mae Rheoliad 2 (5) yn darparu ar gyfer mewnosod rheoliad 49 newydd yn Rheoliadau 2011. Byddai'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adolygu gweithrediad ac effaith y Rheoliadau hynny mewn perthynas â Lloegr o fewn 5 mlynedd ar ôl 1 Hydref 2012, ac o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd ar ôl hynny. Nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn nodi pam nad ystyriwyd hi'n briodol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad. 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

24 Medi 2012

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2012

 

1. O dan Reol Sefydlog 21.2 (ix) – Nad yw'r rheoliadau wedi’u gwneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU. Ystyrir felly nad yw'n rhesymol ymarferol i'r Offeryn hwn gael ei wneud yn ddwyieithog.

 

2. O dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) – Ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad. Nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn rhoi unrhyw wybodaeth bellach yn nodi a yw'r hawlwyr a'r partïon eraill sydd â diddordeb yn yr achos hwn o ymgyfreitha wedi’u bodloni bod y Rheoliadau diwygiedig yn trosi'r gyfarwyddeb fframwaith gwastraff ddiwygiedig yn gywir.

Rhoddwyd drafft o'r Rheoliadau i'r Hawlwyr a'r Partïon a chanddynt Fuddiant ar 4 Gorffennaf 2012. Nododd yr Hawlwyr mewn llythyr ar 13 Gorffennaf 2012 nad oeddent yn fodlon ar y Rheoliadau diwygio, ond heb roi rhesymau o sylwedd i ategu eu barn. Rhoddwyd rhesymau o sylwedd mewn llythyr ar 16 Awst, ar ôl i'r Rheoliadau gael eu gosod. Felly, ar y gorau, dim ond nodi'r ffaith nad oedd yr Hawlwyr yn fodlon y byddai wedi bod yn bosibl ei wneud yn y Memorandwm Esboniadol.

Sut bynnag, ni fyddai wedi bod yn briodol gwneud deddfwriaeth yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan yr Hawlwyr neu'r Partïon a chanddynt Fuddiant. Diben y ddeddfwriaeth oedd cywiro diffyg a gydnabuwyd gennym yn rheoliad 13 yn y Rheoliadau gwreiddiol, nad oedd yn gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ddiwygiedig yn briodol mewn perthynas â chasglu ar wahân. Roedd y ffaith nad oedd yr Hawlwyr yn fodlon ar y diwygiadau yn berthnasol i'r adolygiad barnwrol a oedd yn mynd rhagddo, ond nid i'r broses o wneud y ddeddfwriaeth hon.

 

3. O dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) – Ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad. Nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn nodi pam nad ystyriwyd hi’n briodol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad.

 

Polisi cyfredol Llywodraeth y DU yw cynnwys cymal ym mhob rheoliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i adolygiad gael ei gynnal o fewn cyfnod amser penodedig. Nid oes gan Lywodraeth Cymru bolisi tebyg yng Nghymru. Gall Gweinidogion Cymru adolygu'r rheoliadau unrhyw bryd. O ganlyniad, dim ond i Loegr yr oedd yn berthnasol cynnwys y ddarpariaeth adolygu yn yr offeryn.